Os yw rhiant dibreswyl yn gwneud taliadau i ni, byddwn yn cysylltu â hwy i wneud trefniadau talu a dweud wrthynt pryd i dalu. Gwnawn hyn drwy anfon amserlen gasglu atynt.
Beth yw amserlen gasglu?
Tabl yw amserlen gasglu sy'n dangos manylion faint o gynhaliaeth plant y bydd y rhiant dibreswyl yn ei dalu a phryd mae angen iddynt wneud taliadau. Os ydynt yn talu'r rhiant â gofal yn uniongyrchol, efallai y byddai'n ddefnyddiol iddynt lunio eu hamserlen taliadau eu hunain. Gall hyn helpu'r ddau riant i wybod faint o gynhaliaeth plant sy'n ddyledus ar ba ddyddiad.
Mae'r amserlen gasglu ar gyfer 12 mis fel arfer.
Os ydym yn gwybod y bydd newidiadau i'r swm sy'n ddyledus o fewn y 12 mis nesaf, bydd yr amserlen yn dangos hyn. Er enghraifft, gallai'r rhiant dibreswyl fod yn talu unrhyw daliadau blaenorol maent wedi eu methu (weithiau gelwir y rhain yn ôl-ddyledion), yn ogystal a'u taliadau cynhaliaeth plant rheolaidd. Os byddant yn talu'r holl ôl-ddyledion cyn diwedd y 12 mis, bydd yr amserlen gasglu yn dangos pryd bydd y swm o gynhaliaeth plant yn newid.
Tua 28 diwrnod cyn dyddiad y taliad diwethaf ar yr amserlen talu, gallwn anfon amserlen newydd ar gyfer y 12 mis nesaf. Gallwn hefyd anfon amserlen talu newydd os bydd y swm o gynhaliaeth plant yn newid am unrhyw reswm.
Gallai amserlenni talu gynnwys taliadau eraill sy'n ddyledus, er enghraifft:
- unrhyw ôl-ddyledion sy'n ddyledus gan y rhiant dibreswyl (taliadau a fethwyd gennych yn flaenorol yw'r rhain)
- symiau eraill maent yn gyfrifol amdanynt, fel cost prawf DNA neu gostau llys.
Pa mor aml sy'n rhaid gwneud taliadau?
Byddwn yn cytuno gyda'r rhiant dibreswyl a'r rhiant â gofal am ba mor aml a phryd caiff taliadau eu gwneud. Yn aml, bydd hyn yn seiliedig ar bryd y telir cyflog, pensiwn neu fudd-dal i'r rhiant dibreswyl.
Yn gyffredinol, gwneir y rhan fwyaf o daliadau:
- bob wythnos — 52 taliad y flwyddyn
- bob bythefnos — 26 taliad y flwyddyn
- bob pedair wythnos — 13 taliad y flwyddyn, neu
- bob mis — 12 taliad y flwyddyn.
Am fwy o wybodaeth am wneud taliadau ac am amserlenni casglu darllenwch ein taflen
"Sut gallaf dalu cynhaliaeth plant?"
[PDF 571KB]
Os ydych yn rhiant dibreswyl sy'n cael problemau talu, cysylltwch â ni cyn gynted â phosibl. Cewch wybod mwy am beth sy'n digwydd os nad ydych yn talu yma.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut gallaf dalu cynhaliaeth plant?" [941Kb]
- Darllenwch ein taflen "Pa gamau all y CSA eu cymryd os na fydd rhieni'n talu?" [941Kb]

