Os bydd un o'r rhieni yn credu fod y penderfyniad yn anghywir neu ein bod wedi anwybyddu rhai ffeithiau neu dystiolaeth bwysig, dylent gysylltu â ni. Mae'r cyfeiriad a'r rhif ffôn ar dudalen flaen y llythyr sy'n dweud am ein penderfyniad.
Dylai'r rhiant ddweud pam eu bod yn credu fod y penderfyniad yn anghywir a gofyn i ni edrych arno eto. Byddwn yn gallu egluro'r rhesymau am y penderfyniad a'i newid os bydd yn anghywir. Os newidir y penderfyniad, byddwn yn anfon llythyr i gadarnhau'r penderfyniad newydd. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i'r rhieni os na fyddwn wedi newid y penderfyniad.
Gall bob rhiant ofyn i rywun gysylltu â ni ar eu rhan, ond rhaid iddynt fod wedi dweud wrthym yn ysgrifenedig bod rhywun arall yn eu cynrychioli.
Gall y naill riant anghytuno, a hefyd, apelio yn erbyn penderfyniad newydd hwn. Os ydynt am wneud hynny, rhaid iddynt apelio o fewn mis o ddyddiad y llythyr sy'n dweud wrthynt am ein penderfyniad newydd.
Tra bydd penderfyniad yn cael ei adolygu neu os apelir yn ei erbyn, bydd yn aros mewn grym. Bydd dal yn rhaid i'r rhiant dibreswyl dalu cynhaliaeth plant hyd nes caiff y mater ei ddatrys.
Ceir mwy o wybodaeth am y broses fwy ffurfiol o wneud apêl yma:Gwybodaeth am apeliadau
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut gallaf apelio yn erbyn penderfyniad cynhaliaeth plant?" [941Kb]
Gwefannau eraill
- Sut i apelio - Canllaw gan y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd wedi ei ddylunio i'ch helpu i ddeall y broses apelio

