Hafan › Eich achos › Newidiadau mewn amgylchiadau › Gwaith ac arian › Mynd yn hunangyflogedig
Mynd yn hunangyflogedig
Os bydd rhiant dibreswyl yn hunangyflogedig, dylent barhau i dalu cynhaliaeth plant yn y ffordd arferol. Byddwn yn gweithio allan y swm y dylent ei dalu yn seiliedig ar eu hincwm wythnosol a'r nifer o blant y maent yn talu cynhaliaeth plant ar eu cyfer.
Yr unig wahaniaeth yw'r ffordd rydym yn gweithio enillion allan.
Sut fydd y CSA yn cyfrifo enillion o hunangyflogaeth?
Os yw'r rhiant dibreswyl yn hunangyflogedig, byddwn yn defnyddio cyfanswm yr elw trethadwy ar gyfer y flwyddyn dreth ddiweddaraf. Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan na allwn weithio allan enillion o hunangyflogaeth yn y ffordd hon. Er enghraifft os mai newydd ddechrau gwaith hunangyflogedig mae'r rhiant dibreswyl byddwn yn defnyddio manylion yr incwm gros (yr holl arian y mae'r busnes, yn hytrach na'r rhiant dibreswyl, wedi ei ennill). I weithio enillion allan, byddwn yn tynnu'r canlynol o'r incwm gros
- unrhyw dreuliau rhesymol a delir i redeg y busnes
- TAW (treth ar werth)
Unwaith y byddwn wedi gweithio allan enillion y rhiant dibreswyl, byddwn yn cyfrifo eu hincwm wythnosol net.
Mae dau wahaniaeth yn sut y caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan o dan yr hen gynllun:
- Byddwn yn cyfrifo enillion y rhiant dibreswyl ac wedyn eu hincwm net.
- Hefyd, caiff yr incwm i'w eithrio ei weithio allan yn wahanol - nid ydym yn caniatáu i gostau teithio i'r gwaith gael eu cynnwys fel rhan o'ch incwm i'w eithrio.
Gallwch gael gwybod sut i gysylltu â ni i ddweud wrthym am newid yn eich amgylchiadau yma.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?" [941Kb]

