Hafan › Eich achos › Adolygiadau cynhaliaeth ac apeliadau › Apelio › Pryd a sut i apelio
Pryd a sut i apelio
Os bydd rhiant am apelio, dylent naill ai lenwi'r ffurflen yng nghefn ein taflen Sut gallaf apelio yn erbyn penderfyniad cynhaliaeth plant? (PDF: 682KB)
neu ysgrifennu llythyr atom sy'n dweud wrthym:
- eu rhif cyfeirnod cynhaliaeth plant (bydd hwn ar ben y llythyr sy'n dweud wrthynt am y penderfyniad)
- y penderfyniad maent yn apelio yn ei erbyn
- y dyddiad ar y llythyr sy'n dweud wrthynt am y penderfyniad, ac
- y rhesymau pam maent yn credu fod y penderfyniad yn anghywir.
Mae'n rhaid iddynt lofnodi'r ffurflen apêl neu'r llythyr hefyd. Os ydynt wedi gofyn i rywun eu cynrychioli, gallant hwy lofnodi'r ffurflen neu'r llythyr. Fodd bynnag, dim ond os ydynt wedi dweud wrthym yn ysgrifenedig bod y person hwn yn gweithredu fel eu cynrychiolydd y gallwn dderbyn hyn.
Child Support AgencyCentral Appeals Unit
Peel Park Blackpool
Pittman Way
Preston
PR11 2DN.
Rhaid i apêl gael ei hanfon atom o fewn mis o ddyddiad y llythyr sy'n dweud am ein penderfyniad.
Beth fydd yn digwydd os bydd yr apêl yn hwyr?
Os bydd rhywun yn apelio ar ôl y terfyn amser (mwy na mis ar ôl dyddiad y llythyr gwreiddiol a gafwyd gennym am y penderfyniad), efallai na dderbynnir yr apêl. Bydd ein Huned Apeliadau Ganolog yn anfon pob apêl hwyr yn awtomatig i'r Tribiwnlys Rheng Gyntaf - y rhan o'r Gwasanaeth tribiwnlys sy'n gwrando ar apeliadau yn erbyn ein penderfyniadau.
Cyfrifoldeb y Tribiwnlys Rheng Gyntaf yw penderfynu a fyddant yn derbyn apêl hwyr. Dim ond os byddant yn fodlon ar y canlynol y gallant wneud hyn
- mae siawns resymol y bydd yn llwyddo
- mae yna amgylchiadau arbennig
- nid oes mwy na blwyddyn wedi mynd heibio ers i'r terfyn amser ar gyfer apelio ddod i ben.
Yr amgylchiadau arbennig yw:
- mae'r rhiant sy'n apelio wedi bod yn ddifrifol wael
- mae perthynas i'r rhiant sy'n apelio (partner neu rywun sy'n dibynnu arnynt, fel plentyn) wedi bod yn ddifrifol wael neu wedi marw
- mae'r rhiant sy'n apelio yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig
- amharwyd ar y gwasanaethau post, neu
- mae'r tribiwnlys rheng gyntaf yn penderfynu bod rheswm eithriadol a pherthnasol arall a oedd yn golygu nad oedd bosibl apelio o fewn y terfyn amser.
Er mwyn i'r tribiwnlys ystyried derbyn apêl yn hwyr, mae angen iddynt gael gwybod pam ei bod yn hwyr, gan ddefnyddio'r blwch perthnasol ar y ffurflen apêl neu drwy ddweud wrthym yn y llythyr apêl fydd yn cael ei anfon atom.
Bydd y Tribiwnlys Rheng Gyntaf yn edrych ar y rhesymau a roddwyd ac yn penderfynu a ddylai'r apêl fynd yn ei blaen ai peidio. Os na fyddant yn derbyn y rhesymau, ni fydd yr apêl yn mynd yn ei blaen.
Beth fydd yn digwydd pan fydd y CSA yn cael apêl?
Pan fyddwn yn cael apêl, byddwn yn gwneud yn siŵr bod yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnom wedi cael ei rhoi. Byddwn hefyd yn sicrhau ei bod wedi cael ei llofnodi gan y rhiant sy'n apelio, neu'r person sy'n eu cynrychioli. Os cwrddir â'r amodau hyn, byddwn yn derbyn fod yr apêl wedi cael ei gwneud yn iawn. Weithiau gelwir hyn yn 'gyflwyno'n gywir'. Yna, byddwn yn dechrau archwilio'r apêl.
Os nad yw'r apêl wedi cael ei gwneud yn iawn, byddwn yn ei hanfon at y rhiant sy'n gwneud yr apêl i'w chwblhau, neu byddwn yn gofyn am fwy o wybodaeth o fewn 14 diwrnod.
Os bydd y rhieni yn dychwelyd popeth sydd ei angen o fewn 14 diwrnod, byddwn yn trin yr apêl fel pe bai wedi ei gwneud ar amser. Os nad ydynt yn credu y gallant gadw at y terfyn amser hwn, dylent roi gwybod i ni ar unwaith. Efallai y gallwn roi mwy o amser iddynt.
Os na fydd y wybodaeth y gofynnwn amdani yn cael ei dychwelyd o fewn yr amser a ganiateir, byddwn yn anfon yr hyn sydd wedi cael ei ddarparu i'r Tribiwnlys Rheng Gyntaf. Efallai y byddant yn penderfynu peidio â'i derbyn am nad yw'r apêl wedi'i chyflwyno'n gywir.
Edrych ar y penderfyniad eto
Pan fyddwn yn derbyn bod apêl wedi ei chyflwyno yn gywir, byddwn yn edrych yn ofalus ar y rhannau o'r penderfyniad nad yw'r rhiant yn cytuno â hwy. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn yn cysylltu yn uniongyrchol â'r rhiant sy'n apelio i geisio datrys y mater - naill ai drwy egluro'r rhesymau am ein penderfyniad, neu i gael mwy o wybodaeth.
Os byddant yn fodlon gyda'n eglurhad, neu os byddwn yn newid y penderfyniad i ystyried gwybodaeth newydd, gall y rhiant ofyn am gael tynnu eu hapêl yn ôl. Byddwn hefyd yn gofyn i apêl gael ei thynnu yn ôl os byddwn yn canfod nad oes unrhyw wallau yn ein penderfyniad neu os na fyddai newid i'n penderfyniad o fudd i'r rhiant. Er mwyn tynnu apêl yn ôl, rhaid i riant, neu eu cynrychiolwr, ysgrifennu i:
Child Support AgencyCentral Appeals Unit
Peel Park Blackpool
Pittman Way
Preston
PR11 2DN
Os byddwn yn canfod y gallwn newid y penderfyniad ac y bydd y newid hwnnw o fudd i'r rhiant sydd wedi apelio, byddwn yn anfon llythyr at y ddau riant i ddweud wrthym am y swm newydd o gynhaliaeth plant sy'n rhaid ei dalu.
Ar hyn o bryd, rydym yn datrys oddeutu hanner o'n holl apeliadau erbyn y cam hwn o'r broses. Serch hynny, mae'r cam hwn yn cymryd tua 10 wythnos ar gyfartaledd.
Paratoi cyflwyniad apêl
Os na fyddwn yn newid y penderfyniad, a bod y person sy'n apelio yn penderfynu eu bod am i'w hapêl barhau, byddwn yn paratoi cyflwyniad apêl ar gyfer y Tribiwnlys Rheng Gyntaf. Bydd y cyflwyniad apêl yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd gennym am y penderfyniad gwreiddiol a pham y gwnaethom y penderfyniad (fel y ffurflen gais wreiddiol, slipiau cyflog, cyfriflenni banc ac unrhyw lythyrau a anfonwyd neu a dderbyniwyd) yn ogystal â'r holl wybodaeth sydd gennym am yr apêl. Bydd hyn yn cynnwys copïau o lythyrau mae'r rhiant sy'n apelio, neu'r bobl eraill sy'n ymwneud â'r apêl, wedi'u hysgrifennu, os byddant yn helpu i egluro'r penderfyniad neu'r rheswm dros apelio.
Yna byddwn yn anfon copïau o'r cyflwyniad apêl i'r Tribiwnlys Rheng Gyntaf, y rhiant sy'n apelio, a'r holl bobl eraill sy'n gysylltiedig â'r apêl.
Cyn anfon y cyflwyniad apêl, byddwn yn anfon ffurflen yn gofyn i'r holl bobl sy'n gysylltiedig â'r apêl os hoffent i unrhyw wybodaeth a fyddai'n datgelu lle maent yn byw gael ei dileu oddi ar bapurau'r apêl. Os ydynt am i'w cyfeiriad fod yn gyfrinachol, rhaid iddynt ddweud wrth ein Huned Apeliadau Ganolog o fewn 14 diwrnod i'r dyddiad ar y ffurflen a anfonwyd atynt am hyn. Os na fyddant yn ateb, byddwn yn cynnwys y wybodaeth yn y cyflwyniad apêl.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut gallaf apelio yn erbyn penderfyniad cynhaliaeth plant?" [941Kb]
Gwefannau eraill
- Sut i apelio - Canllaw gan y Gwasanaeth Tribiwnlysoedd wedi ei ddylunio i'ch helpu i ddeall y broses apelio

