Dyluniwyd y wefan gan ystyried defnyddwyr sydd â nam ar eu golwg neu sy'n ei chael hi'n anodd i ddefnyddio llygoden. Mae yn gwbl gydnaws â meddalwedd darllen sgrîn boblogaidd, a gellir ei llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig. Os cewch anhawster i ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch defnyddiwch y cyfleuster chwilio yn ôl allweddair sydd ar yr ochr chwith ar ben pob tudalen.
- Bysellau Cyrchu
- Chwilio'r wefan
- Newid maint y testun
- Newid lliwiau
- Ffeiliau PDF
- Gwybodaeth ar ffurfiau eraill
Bysellau Cyrchu
Mae bysellau cyrchu yn cynnig llwybr brys, sy'n gyflym a hawdd, i dudalennau cyffredin heb fod angen llygoden ac maent wedi cael eu cynnwys i helpu defnyddwyr anabl i lywio o amgylch y wefan.
Mae bysellau cyrchu ar gael ar gyfer y ddewislen ar y chwith a gellir eu defnyddio trwy ddal y fysell Alt a gwasgu'r fysell a ddangosir. Dylech ddilyn hyn drwy wasgu Return/Enter (Defnyddwyr Internet Explorer yn unig).
0 Gwybodaeth am Hygyrchedd
1 Hafan
3 Map o'r wefan
4 Sgipiwch i chwilio
8 Rhyddid gwybodaeth
9 Cysylitiadau
a Amdanom ni
c Saesneg / English
d Cynghorwyr
e Cyflogwyr
i Beth yw cynhaliaeth plant?
n Neidio i'r man llywio
o Cysylltwch â ni
s Neidio i'r cynnwys
u Sefydlu cynhaliaeth plant
y Eich achos
Chwilio'r wefan
Tra'n dal y bysell Alt i lawr, pwyswch y bysell S
Yna rhowch y testun yr hoffech chwilio amdano, ac yna pwyswch Return / Enter
Newid maint testun
Efallai y bydd hi'n haws i rhai defnyddwyr ddarllen y wefan drwy gynyddu maint y testun sy'n ymddangos.
Microsoft Internet Explorer
Cynyddu neu lleihau maint testun
- Tra'n dal y bysell Alt i lawr, pwyswch V
- Pwyswch X
- Dewiswch un o'r meintiau testun sydd eisoes wedi'u gosod drwy ddefnyddio naill ai'r bysell Saeth i fyny neu'r Saeth i lawr a phwyso Return / Enter
Firefox
Cynyddu maint testun - Tra'n dal y bysell Control i lawr, pwyswch +
Lleihau maint testun - Tra'n dal y bysell Control i lawr, pwyswch -
Opera
Cynyddu maint testun - Tra'n dal y bysell Shift i lawr, pwyswch +
Lleihau maint testun - Tra'n dal y bysell Shift i lawr, pwyswch -
Newid lliwiau
Gall newid lliw cefndir y safle fod yn arbennig o ddefnyddiol i ddefnyddwyr sy'n dibynnu ar dechnoleg chwyddo gan fod gwyn yn gallu cynhyrchu disgleirdeb anghyfforddus. Gellir hefyd newid lliw corff y testun ar y wefan. Cyflawnir hyn trwy newid y dewis yn y porwr:
Microsoft Internet Explorer
- ewch i'r ddewislen Offer (Tools)
- dewiswch Dewisiadau Rhyngrwyd (Internet Options)
- dewiswch Hygyrchedd (Accessibility)
- ticiwch y blwch wrth ochr "Anwybyddwch y lliwiau a benodwyd ar dudalennau gwe (Ignore colors specified on web pages)"
- dewiswch Iawn (OK)
- dewiswch Lliwiau (Colors)
- sicrhewch nad oes tic yn y blwch wrth ochr "Defnyddiwch lliwiau windows (Use windows colors)"
- defnyddiwch ddewiswyr lliwiau Testun (Text) a Cefndir (Background)
- cadarnhewch y lliwiau Iawn (OK)
- cadarnhewch y dewision Iawn (OK)
Firefox
- ewch i'r ddewislen Tools
- dewiswch Options
- o fewn yr "Options" dewiswch Content
- dewiswch Colors
- sicrhewch nad oes tic yn y blwch wrth ochr "Allow pages to choose their own colors"
- sicrhewch nad oes tic yn y blwch wrth ochr "Use system colors"
- defnyddiwch ddewiswyr lliwiau Text a Background colour selectors
- cadarnhewch y lliwiau OK
- cadarnhewch y dewision OK
- Defnyddiwch y bysell swyddogaeth F5 i ail osod y sgrîn
Opera
Eich opsiynau yw
- Tools menu, Preferences a dewis web pages neu;
- View menu, Style a dewis user mode
Awgrymir yn gryf, y dylai defnyddwyr, arbrofi gyda'r gosodiadau a gynigir er mwyn cael yr effaith angenrheidiol
Ffeiliau PDF
Mae'r dogfennau sydd ar gael i'w llawr-lwytho o'r wefan hon ar ffurf PDF (Portable Document Format). Cyn i chi allu eu darllen byddwch angen meddalwedd gweld Adobe Acrobat a gellir lawr-lwytho hwnnw wrth ddefnyddio'r llun cyswllt Adobe Reader sydd ar waelod unrhyw dudalen. Gallwch gael mwy o wybodaeth am hygyrchedd ac am ffeiliau PDF o wefan adobe
Gwybodaeth ar ffurfiau eraill
Gallwn ddarparu gwybodaeth mewn Braille, ffont mwy neu ar CD-ROM a thâp sain. Hefyd, mae Minicom neu BT Typetalk ar gael i'r rhai sy'n drwm eu clyw. Lle bo angen, gallwn drefnu i ymweld â chleient yn eu cartref. Gallwn ddarparu cynghorwyr iaith neu gallwn gynnig defnyddio Language Line pan nad Cymraeg neu Saesneg yw dewis iaith y cleient.

