Canolfan Cyngor ar Bopeth
Mae'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth (CAB) ar gael i unrhyw un sydd am gael cyngor a gwybodaeth ar bob math o bynciau gan gynnwys cyflogaeth, tai, dyled, budd-daliadau a materion cyfreithiol a theuluol.
www.citizensadvice.org.uk
Relate
Relate, y bobl delio â materion perthynas, yw darparwyr cymorth perthynas mwyaf y DU. Maent yn darparu gwasanaethau wyneb – yn – wyneb trwy rwydwaith o Ganolfannau lleol, yn ogystal â dros y ffôn ac ar-lein. Mae gwasanaethau yn cynnwys cwnsela perthynas, therapi rhyw, cwnsela teuluol (gan gynnwys cwnsela ar ôl wahanu), a gwasanaethau i bobl ifanc, i gyd wedi'u darparu gan bobl broffesiynol cymwys. Mae cyngor hefyd ar gael ar-lein. Ffoniwch ni am fanylion eich Canolfan Relate agosaf. Mae gwasanaethau Relate are gael yng Ngogledd Iwerddon a Phrydain Fawr:
Relate Prydain Fawr: www.relate.org.uk
Relate Gogledd Iwerddon: www.relateni.org
Carers UK
Llinell gymorth gyfrinachol sy’n rhad ac am ddim, ac sy'n rhoi gwybodaeth i ofalwyr am eu hawliau lles.
www.carersuk.org
Y Samariaid
Os ydych yn dioddef o unrhyw ofid emosiynol, mae'r Samariaid ar gael 24 awr y dydd. Mae'r Samariaid yn credu mai yn aml iawn, y cam cyntaf er mwyn dygymod â’ch sefyllfa yw rhoi’r cyfle a’r amser i chi drin a thrafod eich problemau neu anawsterau.
www.samaritans.org.uk
Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion
Gwybodaeth a chymorth i unrhyw un sydd â ffrind neu berthynas yn y carchar. Mae ganddynt amryw o daflenni gwybodaeth y gallant eu hanfon at bobl am faterion sy'n effeithio ar garcharorion a'u perthnasau. Gallant hefyd gyfeirio pobl at gyrff defnyddiol eraill.
www.prisonersfamilieshelpline.org.uk
SSAFA Forces Help
Help ymarferol ac ariannol a chymorth cyfrinachol, gan gynnwys cyngor proffesiynol am waith cymdeithasol i aelodau’r lluoedd a'u teuluoedd yn y DU ac mewn gwledydd eraill.
www.ssafa.org.uk
Cymorth i Ferched Cymru
Help i ferched yng Nghymru sy'n dioddef o gamdriniaeth corfforol, ariannol, meddyliol, emosiynol ac/neu rywiol gan rywun maent wedi bod mewn perthynas â hwy. Gallant gyfeirio pobl at grwpiau lleol am gymorth, gwybodaeth a lloches. Mae'r 39 grŵp Cymorth i Ferched yn rhoi gwybodaeth, cefnogaeth a lloches ddiogel i ferched, plant a phobl ifanc sy'n dioddef o gamdriniaeth yn y cartref. Mae'r swyddfa genedlaethol yn anelu at godi ymwybyddiaeth o gamdriniaeth yn y cartref trwy ymgyrchu, dylanwadu a chydweithio gydag asiantaethau perthnasol.
www.welshwomensaid.org
Grŵp Hawliau Teuluol
Sefydlwyd y Grŵp Hawliau Teuluol (FRG) fel elusen gofrestredig yn 1974 i roi help a chyngor i deuluoedd â phlant sy'n destun y gwasanaethau cymdeithasol. Mae FRG yn gweithio i wella'r gwasanaethau a dderbynnir gan y teuluoedd hyn.
www.frg.org.uk
Families Need Fathers
Yn cynnig gwybodaeth a chymorth personol i rieni ac eraill nad ydynt yn rhan o fywydau eu plant, neu sy’n ceisio cael rhannu magwraeth eu plentyn. Maent yn rhoi gwybodaeth, cefnogaeth a llyfrynnau cynghori i helpu rhieni i gadw mewn cysylltiad â'u plant ar ôl ysgariad neu wahanu. Maent yn rhedeg llinell gymorth ac yn cynnal cyfarfodydd hunan-help ledled y DU. Maent yn cyhoeddi ffeithlenni a gwybodaeth arall am fagu plant a chymorth cyfreithiol ac yn rhedeg fforwm hunan-help ar eu gwefan ar gyfer eu haelodau.
www.fnf.org.uk
Shelter Cymru
Cymorth a gwybodaeth i bobl sy'n ddigartref neu sydd gyda phroblem tai, am lefydd mewn hosteli, dod o hyd i lety, hawliau tai, budd-dal tai ac ôl-ddyledion rhent. Efallai caiff pobl sy'n ffonio eu cyfeirio at ganolfan ranbarthol. Ewch i'r wefan am wybodaeth gyffredinol a chymorth tai ar-lein.
www.sheltercymru.org.uk

