Polisi Preifatrwydd

Mae'r dudalen hon yn egluro ein polisi preifatrwydd a sut y byddwn yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth amdanoch a roddwch i ni wrth ymweld â'r wefan hon.

Pa wybodaeth fyddwn yn ei chasglu gan ymwelwyr i'r wefan?

Byddwn yn casglu dau fath o wybodaeth gan ymwelwyr i wefan yr Asiantaeth Cynnal Plant: adborth (trwy e-bost gan ymwelwyr) a gwybodaeth ar ddefnydd o'r wefan o'r ffeiliau log.

Ffeiliau log

Mae ffeiliau log yn ein galluogi i gofnodi'r defnydd o'r wefan a wneir gan ymwelwyr. Nid yw'r ffeiliau log yn cadw unrhyw wybodaeth bersonol y gellir ei defnyddio er mwyn canfod pwy ydych. Defnyddir y wybodaeth hon i wneud newidiadau i osodiad y wefan ac i'r wybodaeth a gynhwysir ynddi.

Adborth

Croesawn eich sylwadau am y wefan hon. Nid oes gan y Tîm Rhyngrwyd unrhyw ffordd o weld unrhyw gofnodion achos; os byddwch am wneud ymholiad neu anfon gwybodaeth am eich achos yna dylech gysylltu â'r ganolfan sy'n delio â'r achos. Gallwch gael ein manylion cyswllt yma.

Unwaith y byddwn wedi anfon ymateb atoch, byddwn yn cadw cofnod o'ch neges fel cyfeirnod ac at ddibenion monitro.

Cookies

"Cookies" yw'r enw ar ddarnau o ddata a gaiff eu creu yn aml wrth i chi ymweld â gwefan, a chânt eu cadw yn y cyfeiriadur "cookies" ar eich cyfrifiadur.

Fel arfer, nid yw'r wefan hon yn defnyddio "cookies". Weithiau byddwn yn cynnal arolygon boddhad ar y wefan. Yn yr achosion hyn byddwn yn defnyddio "cookies" i fonitro'r nifer o ymatebion i'r arolwg. Byddwn hefyd yn defnyddio "cookies" i sicrhau na fyddwch yn derbyn yr arolwg eto os ydych eisoes wedi'i gwblhau.

Yr Asiantaeth Cynnal Plant a'r Ddeddf Diogelu Data

Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant yn deall y pryderon yngl n â chasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol.

Mae gan yr Asiantaeth rwymedigaeth i sicrhau bod gan gleientiaid ddigon o wybodaeth i ddeall yr asesiad yn llawn, a deall sut y cesglir ac y gorfodir eu cynhaliaeth plant ac i ddiogelu unrhyw wybodaeth bersonol nad yw'n hanfodol ar gyfer deall hyn oll.

Gellir datgelu'r wybodaeth ganlynol i gleientiaid yr Asiantaeth Cynnal Plant:

  • Gwybodaeth yn ymwneud â phrosesu eu hachos gan gynnwys p'un ai oes digon o wybodaeth wedi cael ei darparu er mwyn gwneud asesiad
  • p'un ai yw cynhaliaeth wedi'i thalu
  • pa gamau gorfodi a fwriedir eu cymryd (os o gwbl).

Yr Asiantaeth Cynnal Plant a'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Fel rhan o'r Adran Gwaith a Phensiynau, mae'r Asiantaeth Cynnal Plant yn cydymffurfio'n llawn gyda pholisi'r Adran sy'n berthnasol i'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.

Cael gwybodaeth

Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant yn cael gwybodaeth gan ac ynglŷn â'r rhiant dibreswyl a rhieni â gofal drwy rinwedd ei phwerau statudol. Er enghraifft Mae Rheoliadau Cynnal Plant (Gwybodaeth, Tystiolaeth a Datguddiad) 1992 yn rhoi pwerau i'r Asiantaeth Cynnal Plant allu cael gwybodaeth benodol gan, ymysg eraill, y partïon perthnasol, cyflogwyr ac awdurdodau lleol.

Datguddio gwybodaeth

Lle bo angen datguddiad o wybodaeth yn ôl y Ddeddfwriaeth Cynnal Plant ni fydd y datguddiad hwnnw yn torri ar y Ddeddf Diogelu Data 1998.

Dyma fydd yr achos hyd yn oed os bydd y cleient yn gwrthwynebu i'w gwybodaeth bersonol gael ei datguddio neu os na fyddant wedi darparu unrhyw ganiatâd penodol i ddatguddio'r wybodaeth.

Er enghraifft Rheoliad 9A o'r Mae Rheoliadau Cynnal Plant (Gwybodaeth, Tystiolaeth a Datguddiad) 1992 yn caniatáu'r datguddiad o wybodaeth a roddir gan un parti i'r llall o dan amgylchiadau arbennig.

Mae adran 35 o'r Ddeddf Diogelu Data 1998 yn caniatáu'r datguddiad o wybodaeth mewn unrhyw achos lle bo angen y datguddiad drwy neu o dan ymddeddfiad, neu yn ôl unrhyw reol o'r gyfraith neu drwy orchymyn llys.

Os byddwch am gael gwybod mwy am ba wybodaeth sydd gennym amdanoch, neu sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth edrychwch ar Deddf Diogelu Data 1998 PDF (PDF - 87KB)

Newidiadau i'r polisi preifatrwydd hwn

Os bydd y polisi preifatrwydd yn newid mewn unrhyw ffordd, byddwn yn gosod fersiwn wedi'i ddiweddaru ar y dudalen hon. Trwy adolygu'r dudalen hon yn rheolaidd gellir sicrhau y byddwch wastad yn ymwybodol o ba wybodaeth rydym yn ei chasglu, sut rydym yn ei defnyddio ac o dan ba amgylchiadau, os o gwbl, y gallwn ei rhannu gyda phartïon eraill.