HafanBeth yw cynhaliaeth plant? › Sut mae cynhaliaeth plant yn helpu

Sut mae cynhaliaeth plant yn helpu

Mae'r adran hon yn rhoi gwybodaeth a help i rieni

  • sydd yn y broses o wahanu neu ysgaru, neu
  • unrhyw un sy'n ymwneud â baban a aned i fam sydd er ei phen ei hun.

beth bynnag fo'r amgylchiadau sydd wedi arwain at fod ar eich pen eich hunan, gall gorfod trefnu am y dyfodol fod yn anodd.

Efallai y bydd yn rhaid i chi wneud penderfyniadau anodd ac ystyried rhai materion pwysig am y tro cyntaf. Gallai hyn gynnwys gwneud yn siŵr fod gennych ddigon o arian i fyw arno, beth rydych am ei wneud ynglŷn â'ch plant a phenderfynu beth i'w wneud gyda'ch cartref a'ch eiddo.

Mae nifer o wefannau, taflenni, llinellau ffôn a chyrff cynorthwyo ar gael i'ch helpu pan fo perthynas yn chwalu. Ond weithiau gall fod yn gymhleth iawn ceisio dod o hyd i'r atebion hyn.

Trwy'r wefan hon, anelwn at eich helpu i ddod o hyd i'r atebion sydd eu hangen arnoch. Ceir gwybodaeth yma am y gwahanol ffyrdd y gallwch chi a'ch cyn bartner ddod i gytundeb ar gyfer talu a chael cynhaliaeth plant - yr arian sy'n rhaid i'r rhiant absennol ei dalu i'r rhiant â gofal er mwyn helpu gyda'r costau o fagu plant. Mae'n cynnwys gwybodaeth am: