HafanBeth yw cynhaliaeth plant? › Pethau i gyplau ystyried wrth wahanu

Materion i gyplau sy'n gwahanu

Pethau y gallech fod angen eu hystyried

Pan fo eich perthynas yn dod i ben, mae nifer o bethau y gallech fod angen eu hystyried. Bydd rhai yn newid ac eraill yn aros yr un fath. Bydd rhai pethau angen eu datrys ar unwaith, ond efallai byddwch yn teimlo gall pethau eraill aros. Dyma'r prif faterion y dywedodd rhieni y byddai angen eu hystyried:

Eich arian

  • Penderfynu a chytuno ar daliadau cynhaliaeth plant.
  • Beth fydd yn digwydd i'ch arian, gan gynnwys eich cynilion, pensiwn ac unrhyw fudd-daliadau.
  • Gwneud trefniadau ynglŷn ag unrhyw gyfrif banc ar y cyd ac agor rhai newydd.
  • Gwneud trefniadau i dalu eich morgais neu rent.

Y gyfraith

  • Pa gyngor cyfreithiol sydd ar gael i chi, gan gynnwys cyngor am gyfrifoldebau rhieni a gorchmynion llys.
  • Ysgaru, gwahanu neu ddileu eich partneriaeth sifil.
  • Hawliau cyfreithiol eich plant.

Eich gwaith

  • Trefnu gofal plant.
  • Hysbysu eich cyflogwr o'ch sefyllfa.
  • Chwilio am waith, parhau gyda neu gychwyn mewn addysg i oedolion, a chael arian i dalu am hyfforddiant.

Eich cartref

  • Beth i'w wneud gyda'ch cartref, eich biliau a'ch eiddo.

Eich plant

  • Gyda phwy fydd eich plant yn byw, a sut gall y ddau riant barhau i gael cyswllt gyda'r plant.
  • Pa hawliau cyfreithiol sydd gan eich plant o ran gyda phwy maent yn byw, newid eu henwau a gwneud penderfyniadau eraill.
  • Iechyd eich plant, gan gynnwys brechiadau, triniaeth a materion seicolegol.
  • Dweud wrth ysgol eich plant am eich sefyllfa neu ddewis ysgol newydd.

Eich iechyd

  • Eich iechyd, gan gynnwys straen, anabledd a phrofedigaeth.

Mae nifer o bobl a chyrff y dylech roi gwybod iddynt am y newid i'ch sefyllfa. Ewch i'n rhestr wirio: pwy y dylech ddweud wrthynt am newid i'ch bywyd am fwy o help.