Cyn dechrau eich cais am gynhaliaeth plant, efallai y bydd o help i chi ddefnyddio'r rhestr wirio isod. Mae'n cwmpasu'r prif fanylion sydd angen i chi ddweud wrthym amdanynt. Gallwn ddechrau prosesu'ch cais yn gyflymach os byddwch yn darparu cyn gymaint o fanylion ag y gallwch.
Os gofynnwn i chi anfon unrhyw ddogfennau atom, ysgrifennwch eich enw a rhif Yswiriant Gwladol ar gefn pob un
Eich manylion:
- Eich enw llawn ac unrhyw enwau eraill a ddefnyddiwch.
- Eich cyfeiriad.
- Eich rhif ffôn (gan gynnwys rhif ffôn symudol).
- Eich rhif Yswiriant Gwladol.
- Os ydych yn aelod o'r gwasanaethau arfog, eich rhif BFPO a'ch rhif Gwasanaeth Lluoedd Ei Mawrhydi.
- Eich manylion cyfrif banc (neu fanylion cyfrif rydych am i'ch cynhaliaeth plant cael ei dalu iddo).
- Pa mor aml rydych eisiau derbyn taliadau cynhaliaeth (yn wythnosol, pob pythefnos, pob pedair wythnos neu pob mis).
Am bob plentyn rydych yn gwneud cais amdanynt:
- Eu henw llawn.
- Eu dyddiad geni.
- Eu rhyw (gwryw neu benyw).
- Eich rhif Yswiriant Gwladol os ydynt dros 16 mlwydd oed.
- Enwau llawn eu tad a'u mam.
- Os oes rhywun yn derbyn budd-dal plant am y plentyn.
- Os oes cytundeb cynhaliaeth am y plentyn yn barod.
- Os yw'r plentyn yn aros dros nos gyda'r rhiant dibreswyl pob wythnos neu ar unrhyw adegau eraill (gwyliau'r ysgol, arosiadau ysbeidiol) ac am ba hyd.
- Os yw'r plentyn yn aros dros nos yng ngofal Awdurdod Lleol.
- Os yw'r rhiant dibreswyl yn gwybod eich bod wedi'u henwi fel rhiant y plentyn hwn.
Manylion y rhiant dibreswyl (os oes mwy nag un rhowch fanylion pob un ar wahân):
- Eu henwau llawn ac unrhyw enwau eraill maent yn eu defnyddio.
- Eu cyfeiriad a'r dyddiad olaf rydych yn gwybod eu bod yn byw yno.
- Eu rhif ffôn (gan gynnwys rhif ffôn symudol).
- Eu dyddiad geni.
- Eu rhif Yswiriant Gwladol os yw'n hysbys.
- Os yw'r rhiant dibreswyl yn gwybod ble rydych yn byw.
- Os yw'r rhiant dibreswyl yn fam neu tad i'r plant rydych yn gwneud cais ar eu cyfer.
- Os ydynt yn gyflogedig, di-waith neu hunangyflogedig.
- Eu teitl swydd ac enw eu cyflogwyr, eu cyfeiriad a rhif ffôn os yw'n hysbys.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?" [941Kb]

