Hafan › Sefydlu cynhaliaeth plant › Pwy sy'n cael defnyddio'r CSA › Ceisiadau gan blant
Ceisiadau gan blant
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, dim ond rhiant, taid neu nain, neu warcheidwad plentyn all wneud cais am gynhaliaeth plant. Ond, yn yr Alban, gall rhai pobl ifanc wneud cais am gynhaliaeth plant os nad oes unrhyw un arall yn cael taliadau cynhaliaeth plant ar eu cyfer.
Gall plentyn sy'n byw yn yr Alban wneud cais am gynhaliaeth plant os:
- ydynt yn byw yn Yr Alban
- ydynt rhwng 12 oed a 19 oed ac mewn addysg llawn amser (hyd at y Safon Higher)
- ydynt yn byw ar wahân i un neu i'w dau riant
- mae gan y rhiant (neu'r rhieni) nad ydynt yn byw gyda hwy, gartref eu hunain yn Yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon neu Loegr. Neu gallant fod yn byw dramor ond eu bod yn gweithio i gyflogwr gyda busnes yng Nghymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Loegr.
Pryd na all plentyn sy'n byw yn yr Alban wneud cais?
Ni allant wneud cais am gynhaliaeth plant os oes rhywun wedi gwneud cais yn barod ar eu cyfer. Gallai'r person sydd wedi gwneud cais ar eu cyfer fod yn
- un o'u rhieni
- y person sy'n byw gyda hwy
- brawd neu chwaer hŷn.
Hefyd ni allant wneud cais os oes gan eu rhieni
- cytundeb cynhaliaeth ysgrifenedig
- Llythyr o Gytundeb
- Gorchymyn cynhaliaeth mewn grym.

