HafanSefydlu cynhaliaeth plantGwneud cais › Gwneud cais ysgrifenedig

Gwneud cais ysgrifenedig

  • Printio, cwblhau a phostio. Rhaid i'r ffurflenni hyn gael eu printio, eu llenwi â llaw ac yna cael eu postio atom.
  • Cwblhau ar-lein, printio a phostio. Gellir llenwi'r ffurflenni hyn ar y sgrîn cyn i chi eu printio a'u postio. Er mwyn gwarchod eich diogelwch, ni allwch gadw'r (safio'r) ffurflen wedi i chi ddechrau ei chwblhau.

Pa bynnag fersiwn o'r ffurflen gais a defnyddiwch, rhaid iddi fod

  • wedi'i phrintio
  • wedi'i llofnodi gan y ceisydd, ac
  • wedi'i phostio yn ôl at:

Child Support Agency Centre
Ashdown House
Sedlescombe Road North
St Leonards on Sea
East Sussex
TN37 7NL.

Byddwch angen Adobe Acrobat Reader er mwyn darllen y ffeiliau hyn. Gallwch lawr-lwytho copi o Acrobat Reader am ddim yma

Printio, cwblhau a phostio

Agorwch y ffurflen drwy glicio ar gysylltiad isod, printio'r ffurflen, ei chwblhau â llaw a'i phostio i'r cyfeiriad uchod.

Os mai chi yw'r rhiant â gofal ac yr hoffech wneud cais am gynhaliaeth plant yna defnyddiwch y ffurflen hon.
Cais am gynhaliaeth plant PDF (PDF:79Kb)

Os mai chi yw'r rhiant dibreswyl a bod y rhiant â gofal eisoes wedi gwneud cais am gynhaliaeth, defnyddiwch y ffurflen hon.
Ymholiad cynhaliaeth plant PDF (PDF:79Kb)

Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych yn blentyn yn Yr Alban ac yr hoffech wneud cais i gynhaliaeth gael ei chyfrifo.
Cais i dalu cynhaliaeth plant PDF (PDF:37Kb)

os mai chi yw'r rhiant dibreswyl ac yr hoffech wneud cais i dalu ac nad yw'r rhiant â gofal wedi gwneud cais yn barod yna defnyddiwch y ffurflen hon.
Cais i dalu cynhaliaeth plant PDF (PDF:37Kb)