Gallwch wneud cais am gynhaliaeth plant ar-lein gan ddefnyddio'r cysylltiad isod.
Cyn y gallwch wneud cais ar-lein bydd angen i chi fod wedi'ch cofrestru gyda Phorth y Llywodraeth. Mae Porth y Llywodraeth yn wasanaeth cofrestru canolog ar gyfer gwasanaethau'r e-Lywodraeth yn y DU. Mae cofrestru gyda Phorth y Llywodraeth yn eich galluogi i ddefnyddio unrhyw un o wasanaethau Llywodraeth y DU sydd ar gael ar y Rhyngrwyd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r broses cofrestru, byddwch yn gallu defnyddio dynodwr defnyddiwr unigol neu dystysgrif ddigidol er mwyn anfon neu dderbyn ffurflenni fel ceisiadau budd-dal a ffurflenni treth. Gellir anfon ffurflenni drwy ddefnyddio gwefannau Llywodraethol, pyrth neu becynnau meddalwedd gan drydydd parti.
Gwneud cais am gynhaliaeth plant ar-lein.
Ar hyn o bryd darperir y gwasanaeth hwn gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a gallai gynnwys cyfeiriadau at ei pholisïau.
Gallwch
gwneud cais dros y ffôn neu
gwneud cais ysgrifennedig.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Beth yw cynhaliaeth plant a sut mae'n effeithio arnaf fi?" [941Kb]

