Os ydych wedi ystyried eich opsiynau a'ch bod yn barod i wneud cais, gallwch ddechrau'r broses
Faint fydd hyn yn ei gymryd?
- O fewn pedair wythnos - byddwn yn dechrau casglu gwybodaeth gan y rhiant dibreswyl o fewn pedair wythnos o dderbyn y cais os gall y rhiant â gofal roi manylion cyswllt y rhiant dibreswyl i ni.
- O fewn 12 wythnos - anelwn at wneud penderfyniad cywir ar y cais o fewn 12 wythnos, ond mewn rhai achosion gallai hyn gymryd hyd at 26 wythnos. Os nad oes gennym fanylion cyswllt presennol ar gyfer y rhiant dibreswyl, byddwn yn eu holrhain cyn gynted ag y gallwn.
Taliadau
- O fewn chwe wythnos - pan fyddwn yn casglu cynhaliaeth plant, anelwn at wneud taliad cyntaf i'r rhiant â gofal o fewn chwe wythnos o wneud y trefniadau talu gwreiddiol gyda'r rhiant dibreswyl.
- O fewn pedwar mis - Os oes gan y rhiant dibreswyl swydd ond eu bod yn naill ai methu â thalu neu'n gwrthod talu, byddwn yn ceisio cael taliad drwy Orchymyn Didynnu o Enillion (DEO) o fewn pedwar mis o wneud y trefniadau talu gwreiddiol.
- O fewn wythnos - byddwn yn gwneud taliadau cynhaliaeth i rieni â gofal o fewn wythnos o gael yr arian gan y rhiant dibreswyl.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?" [941Kb]

