Hafan ›Sefydlu cynhaliaeth plant ›Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan › Incwm o fudd-daliadau
Incwm o fudd-daliadau
Y gyfradd unffurf o gynhaliaeth plant yw £5 yr wythnos - waeth faint o blant sydd yn yr achos.
Bydd y rhiant dibreswyl yn talu cyfradd unffurf o gynhaliaeth plant os:
- bydd ei hincwm wythnosol net rhwng £5 a £100, neu
- mae hwy neu eu partner sy'n byw gyda hwy yn cael Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth neu Gredyd Pensiwn, neu
- maent yn cael un o'r budd-daliadau canlynol:
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau
- Pensiwn Ymddeoliad Gwladol
- Budd-dal Analluedd
- Lwfans Gofalwyr
- Lwfans Mamau Gweddw, Lwfans Rhiant Gweddw, Pensiwn Gweddw
- Lwfans Anabledd Difrifol
- Budd-dal Anafiadau Diwydiannol
- Lwfans Mamolaeth
- lwfans hyfforddi wedi ei gymeradwyo gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
- taliadau o'r Cynllun Iawndal Lluoedd Arfog
- Pensiwn Anabledd Rhyfel neu Bensiwn Rhyfel i Weddwon
- Lwfans Profedigaeth
- budd-dal nawdd cymdeithasol wedi ei dalu gan wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig.
Ni fydd rhieni dibreswyl sy'n talu'r gyfradd unffurf am eu bod yn cael budd-dal neu bensiwn yn talu unrhyw gynhaliaeth plant os ydynt yn rhannu'r gofal am blentyn cymwys am o leiaf 52 noson y flwyddyn. Ni fydd unrhyw ostyngiad pellach ar gyfer rhieni dibreswyl sy'n talu'r gyfradd unffurf am fod ganddynt incwm wythnosol net o £100 neu lai oherwydd rhannu gofal, felly byddant dal yn talu £5.
Eithriad i'r rheol hwn yw os bydd rhiant dibreswyl yn atebol i dalu cynhaliaeth plant i fwy nag un rhiant â gofal, ond nad ydynt yn rhannu'r gofal am bob un o'r plant cymwys. Os mai dyma'r achos, bydd y thiant dibreswyl dal yn gorfod talu'r gyfran o'r gynhaliaeth plant sy'n ddyledus i unrhyw riant â gofal nad ydynt yn rhannu gofal â hwy.
Yn ôl i dop y dudalenGwybodaeth bertnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?" [941Kb]

