Hafan › Sefydlu cynhaliaeth plant › Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan
Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan
Rydym yn defnyddio gwybodaeth a roddwyd i ni gan y ddau riant i benderfynu a oes rhaid i rywun dalu cynhaliaeth plant ac i weithio allan swm y gynhaliaeth plant y dylid ei thalu. Gallem hefyd ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau eraill, gan gynnwys cyflogwr y rhiant dibreswyl neu Gyllid a Thollau EM - Cyllid y Wlad gynt.
Rydym yn gweithio cynhaliaeth plant allan drwy gymhwyso un o'n pedair cyfradd i incwm y rhiant dibreswyl. Mae incwm yn golygu enillion, arian o bensiwn galwedigaethol neu bersonol, a chredydau treth. Rydym yn defnyddio'r swm o incwm sy'n weddill ar ôl tynnu pethau fel treth incwm, Yswiriant Gwladol ac unrhyw arian a delir i mewn i gynllun pensiwn. Nid yw hyn yn gymwys os bydd y pensiwn wedi'i drefnu i orffen talu morgais, pan fydd dim ond 75% o'r arian a delir i mewn i'r cynllun pensiwn yn cael ei gymryd o'r incwm.
Y pedair cyfradd rydym yn eu cymhwyso i incwm y rhiant dibreswyl yw:
- cyfradd sylfaenol (os oes ganddynt incwm o £200 yr wythnos neu fwy)
- cyfradd is (os oes ganddynt incwm o fwy na £100 a llai na £200 yr wythnos)
- cyfradd unffurf (os oes ganddynt incwm rhwng £5 a £100 yr wythnos)
- cyfradd sero (os oes ganddynt incwm yn llai na £5 yr wythnos).
Yna gallwn addasu'r gynhaliaeth plant yn seiliedig ar:
- faint o blant eraill sy'n byw gyda'r rhiant dibreswyl, y mae'r rhiant neu'u partner yn cael Budd-dal Plant ar eu cyfer (taliad rheolaidd a wneir i unrhyw un sy'n magu plant)
- faint o blant y mae angen i'r rhiant dibreswyl dalu cynhaliaeth plant ar eu cyfer; a
- p'un a yw'r plentyn yn aros gyda'r rhiant dibreswyl o leiaf un noson bob wythnos.
Am fwy o wybodaeth am sut rydym yn gweithio cynhaliaeth plant allan ac i gael manylion am ein pedair cyfradd,
darllenwch Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?
[780Kb]
Gallwch hefyd ddefnyddio ein cyfrifydd ar-lein i weld faint o gynhaliaeth allai fod yn daladwy.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?" [941Kb]

