Hafan › Sefydlu cynhaliaeth plant › Pwy sy'n cael defnyddio'r CSA › Eithrio allan o'r CSA
Eithrio allan o'r CSA
Mae nifer o wahanol ffyrdd y gallwch drefnu i dalu neu gael cynhaliaeth plant. Mewn gwirionedd, os nad yw'r rhiant â gofal yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm a bod y ddau riant yn gallu dod i gytundeb, nid oes yn rhaid i chi ddefnyddio cyfreithwyr na hyd yn oed mynd drwom ni. Efallai y byddwch eisiau siarad â ni, cyfreithiwr cyfraith y teulu neu gynghorydd annibynnol cyn sefydlu trefniant preifat. Gallwch gael gwybod mwy am wneud trefniant preifat yma.
Beth fydd yn digwydd os bydd rhiant â gofal yn cael budd-daliadau ac nad ydynt eisiau gwneud cais am gynhaliaeth plant?
Os bydd rhiant â gofal yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm a'u bod yn credu y byddai gwneud cais am gynhaliaeth plant yn eu rhoi hwy neu eu plant mewn perygl o niwed neu drallod, gallant ofyn i ni beidio â chysylltu â'r rhiant dibreswyl. Gelwir hyn yn ‘eithrio allan’.
Yn yr amgylchiadau hyn, mae'n rhaid i'r rhiant â gofal ddweud wrthym beth yw eu rhesymau dros eithrio allan. Os byddwn yn derbyn eu rhesymau, gelwir hyn yn cael ‘achos da’ i ni beidio â chysylltu â'r rhiant dibreswyl.
Os na all y rhiant â gofal roi rheswm da i ni, ond eu bod yn dal eisiau i ni beidio â chysylltu â'r rhiant dibreswyl, gall y Ganolfan Byd Gwaith ostwng y swm o fudd-dal y bydd y rhiant â gofal yn ei gael. Hefyd, ni fyddant yn gymwys i gael y premiwm cynhaliaeth plant gan na fyddwn yn gallu casglu taliadau cynhaliaeth plant.
I gael gwybod mwy am yr amgylchiadau ble gallai budd-daliadau gael eu gostwng dylech siarad gyda'ch cynghorydd yn y Ganolfan Byd Gwaith.

