HafanSefydlu cynhaliaeth plantDulliau talu › Rhieni'n byw dramor

Rhieni'n byw dramor

Fel arfer, gall yr Asiantaeth Cynnal Plant ond delio gyda chais am gynhaliaeth plant pan fo'r ddau riant a'r plentyn yn byw yn y Deyrnas Unedig
Yr unig eithriad i hyn yw pan fo naill ai'r rhiant dibreswyl neu'r rhiant â gofal:

  • Yn gweithio dramor ond yn gwasanaethu'r Goron, hynny yw maent yn was sifil neu'n gweithio yng ngwasanaeth llysgenhadol EM neu wasanaeth sifil tramor EM.
  • Yn aelod o'r Lluoedd Arfog
  • Yn gweithio dramor i gwmni sy'n seiliedig yn y Deyrnas Unedig, hynny yw:- mae'r cwmni yn cyflogi pobl i weithio y tu allan i'r Deyrnas Unedig ond yn gwneud taliadau trwy gyflogres yn y Deyrnas Unedig ; ac mae'r cwmni wedi'i gofrestru o dan ddeddf cwmnïau 1985 (Cymru, Lloegr a'r Alban) neu orchymyn cwmnïau 1986 (Gogledd Iwerddon).
  • Yn gweithio dramor ar secondiad i gorff penodedig, er enghraifft, - o ymddiriedolaeth GIG; neu awdurdod iechyd lleol; neu ymddiriedolaeth ofal cynradd; neu awdurdod lleol.

Cewch fwy o wybodaeth a chyngor am y rheolau hyn ac os ydynt yn gymwys i chi drwy ffonio'r Llinell Gymorth Genedlaethol ar 08457 133 133 (neu +44 151 243 1901 os ydych yn ffonio o dramor). Neu, gallwch ffonio'r Llinell Gymorth Gymraeg ar 08457 138 091 (+44 151 633 6705 o dramor).

Os yw'r rhiant yn byw yn Awstralia

Os yw'r rhiant dibreswyl yn byw yn Awstralia a bod y rhiant â gofal yn byw yn y DU yna efallai y gallai Asiantaeth Cynnal Plant Awstralia eich helpu drwy dderbyn cais i asesu cynhaliaeth.

Ewch i wefan Asiantaeth Cynnal Plant Awstralia.

Os yw'r rhiant dibreswyl yn byw dramor ac nad ydynt yn dod i mewn i un o'r categorïau uchod, yna gall y rhiant â gofal wneud cais i lysoedd y DU am gynhaliaeth plant.

Casglu arian o dan orchmynion llys

Os bydd y rhiant â gofal angen help i gasglu'r arian a ddyfernir o dan orchymyn llys am gynhaliaeth, gallant gysylltu â'r adran Gorfodaeth Gyfatebol o Orchmynion Cynhaliaeth (REMO) yn swyddfa'r Cyfreithiwr Gwladol ac Ymddiriedolwr Cyhoeddus.

Gorfodaeth Gyfatebol o Orchmynion Cynhaliaeth (REMO)

Gorfodaeth Gyfatebol o Orchmynion Cynhaliaeth (REMO) yw'r broses ar gyfer cofrestru a gorfodi gorchmynion cynhaliaeth a wneir gan lysoedd y DU er budd preswylwyr y DU, trwy lysoedd neu awdurdodau eraill mewn gwledydd eraill.

Mae hyn yn drefniant cytbwys, felly golyga hyn y gall llysoedd y DU gofrestru a gorfodi gorchmynion cynhaliaeth o dramor yn erbyn preswylwyr y DU.

Deddfwriaeth y DU

Y Ddeddf Gorchmynion Cynhaliaeth (Gorfodaeth Gyfatebol) 1972 yw'r ddeddfwriaeth gynradd y mae'r broses REMO yn gweithredu drwyddi yn y DU.

Hefyd, mae sawl Offeryn Statudol wedi bod ers 1972 er mwyn addasu natur manwl y trefniadau rhwng y DU a gwledydd eraill, neu i alluogi i awdurdodaethau ychwanegol gael eu hystyried gan wledydd cytbwys. Cewch restr o'r holl wledydd REMO fel a ddarperir gan swyddfa'r Cyfreithiwr Gwladol ac Ymddiriedolwr Cyhoeddus.

Sut i wneud cais

Gall prewyliwr o'r DU sydd am wneud cais i gael cynhaliaeth gan berson sy'n byw dramor fynd at:

  • eu llys ynadon lleol (neu'r gorchymyn llys ble gwnaed y gorchymyn) os oes ganddynt orchymyn llys ar gyfer cynhaliaeth yn barod
  • eu llys ynadon lleol os nad oes gorchymyn yn barod.

Gallant wneud cais i'w gorchymyn gael ei orfodi yn y wlad ble mae'r person ddylai dalu yn byw. Mae gweithdrefnau hefyd mewn grym ar gyfer galluogi ymgeisydd i ofyn i'r awdurdodau tramor greu gorchymyn ar gyfer cynhaliaeth ar eu rhan.

Nid oes angen i'r ymgeisydd ddefnyddio cyfreithiwr. Bydd staff y llys yn helpu'r ymgeisydd ac yn anfon y cais ymlaen at yr awdurdod perthnasol. Bydd yr awdurdod yn gwirio bod y cais yn gywir ac yn ei anfon i'r awdurdod neu lys tramor i gael ei gofrestru a'i orfodi yn erbyn y person sy'n byw yno.

Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i wneud cais drwy'r llysoedd, cysylltwch â'r adran REMO o swyddfa'r Cyfreithiwr Gwladol ac Ymddiriedolwr Cyhoeddus neu ffoniwch 0845 345 5303.

Gwybodaeth berthnasol