P'un a ydych yn talu cynhaliaeth plant yn uniongyrchol i'r rhiant â gofal neu'n talu drwom ni, eich cyfrifoldeb chi a'r rhiant arall yw penderfynu pa mor aml y dylech dalu cynhaliaeth plant. Yn gyffredinol, bydd y rhan fwyaf o rieni yn cytuno i wneud taliadau:
- bob wythnos – 52 o daliadau y flwyddyn
- bob pythefnos – 26 o daliadau y flwyddyn
- bob pedair wythnos – 13 o daliadau yr wythnos, neu
- bob mis – 12 o daliadau yr wythnos.
Byddwn yn anfon atodlen gasglu atoch fydd yn dweud pryd y dylech wneud y taliadau hyn.
Sut gallaf dalu cynhaliaeth plant?
mae nifer o ffyrdd gwahanol y gallwch drefnu i dalu cynhaliaeth plant.
Gallwch dalu drwy
- debyd uniongyrchol i'r CSA
- archeb sefydlog, neu
- gall eich cyflogwr gymryd eich taliad cynhaliaeth plant yn uniongyrchol o'ch enillion.
Beth fydd yn digwydd os wyf eisiau talu drwy ddebyd uniongyrchol neu archeb sefydlog?
Mae talu cynhaliaeth plant drwy ddebyd uniongyrchol neu archeb sefydlog yn ffordd gyflym a chyfleus o wneud taliad. Gallwch drefnu archeb sefydlog o'ch cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu gyfrif Swyddfa'r Post yn uniongyrchol i mewn i gyfrif y rhiant â gofal os byddant yn cytuno. Os yw'r rhiant â gofal ar fudd-daliadau, mae'n rhaid i ni hefyd gytuno y gellir gwneud taliadau yn uniongyrchol.
Neu, gallwch drefnu debyd uniongyrchol neu archeb sefydlog i ni. Lle bo'n briodol, byddwn wedyn yn trosglwyddo'r taliad i gyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu gyfrif Swyddfa'r Post y rhiant â gofal. Ein nod yw trosglwyddo cynhaliaeth plant o fewn wythnos o'i derbyn.
Os ydych eisiau talu drwy ddebyd uniongyrchol neu archeb sefydlog, bydd angen i chi lenwi rhai ffurflenni, a gallwn anfon y rhain atoch.
Beth fydd yn digwydd os wyf eisiau talu'n uniongyrchol o'm henillion?
Mae talu eich cynhaliaeth plant yn uniongyrchol o'ch enillion yn ffordd hawdd o drefnu taliad, a gall eich helpu i reoli eich arian. Mae hyn oherwydd bod eich cynhaliaeth plant yn cael ei thynnu o'ch enillion cyn i chi eu cael. Felly, beth bynnag a gewch fel cyflog net, ni fydd yn rhaid i chi dalu cynhaliaeth ohono. Os bydd eich cyflogwr yn cytuno, gallwch dalu cynhaliaeth plant fel hyn drwy drefniant didynnu'n wirfoddol o enillion.
Darllenwch fwy am drefniadau didynnu'n wirfoddol o enillion yn ein taflen Sut gallaf dalu cynhaliaeth plant? [571Kb]

