Hafan › Sefydlu cynhaliaeth plant › Sut y gall trefniadau preifat weithio
Sut y gall trefniadau preifat weithio
Trefniant preifat yw ble rydych chi a'ch cyn bartner yn penderfynu rhyngoch eich hunain faint o gynhaliaeth y dylid ei thalu. Golyga hyn na fydd angen i chi gael unrhyw bobl eraill yn ymwneud â gwneud penderfyniadau.
Beth yw manteision trefniant preifat?
- Gall trefniant preifat helpu i gynnal ewyllys da rhwng rhieni.
- Chi o'ch dau sy'n rheoli'r trefniant a gallwch gadw penderfyniadau yn annibynnol a phreifat.
- Gall fod yn fwy syml ac yn gyflymach na defnyddio cyfreithwyr, cyfryngwyr, y llysoedd neu'r CSA.
- Nid yw'n costio i'w sefydlu.
- Gallwch wneud cais i'ch cytundeb fod yn orfodol yn ôl y gyfraith neu i ddefnyddio ein gwasanaethau ar unrhyw bryd.
Beth yw'r anfanteision?
- Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd eich cyn bartner yn cadw at y cytundeb.
- Hyd yn oed os yw'n ysgrifenedig, ni ellir, yn gyffredinol, gorfodi trefniant preifat drwy'r gyfraith
- Gall newidiadau ym mywydau chi a'ch cyn bartner fod yn anodd i chi a'ch plant. Gallai hyn olygu eich bod yn ei chael yn anodd i barhau gydag unrhyw gytundeb a wnewch.
Nid yw trefniant preifat yn addas i bawb. Defnyddiwch ein hoffer hunan asesu i weld os yw'n addas i chi.
Os byddwch angen help i ddod i gytundeb, gallwch ddefnyddio cyfryngwr neu gyfreithiwr . Os ydych eisiau gwneud cytundeb yn gyfreithiol rhwym dylech ystyried gorchymyn cydsynio . Os na allwch ddod i gytundeb efallai y byddwch am ystyried gorchymyn llys..
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Beth yw cynhaliaeth plant a sut mae'n effeithio arnaf fi?" [941Kb]

