HafanSefydlu cynhaliaeth plant› Trefnu cynhaliaeth plant yn breifat

Trefnu cynhaliaeth plant yn breifat

Mae llawer o ffyrdd gwahanol i drefnu i dalu neu gael cynhaliaeth plant. Yn wir, os nad yw'r rhiant â gofal yn cael Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, a gall y ddau riant ddod i gytundeb, nid oes rhaid i chi gynnwys cyfreithwyr na hyd yn oed fynd drwom ni. Efallai y byddwch am siarad â ni, cyfreithiwr cyfraith teulu neu ymgynghorydd annibynnol cyn sefydlu trefniant preifat.

Os bydd y rhiant â gofal yn hawlio naill ai Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm, bydd eu cais yn cael ei drin fel cais am gynhaliaeth plant hefyd. Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn casglu gwybodaeth am gynhaliaeth cynnal plant gan y rhiant â gofal ac yn pasio'r manylion ymlaen atom. Yna byddwn yn cysylltu â'r rhiant dibreswyl i drefnu eu bod yn talu cynhaliaeth plant. Yn y sefyllfa hon, byddwn yn gwneud cyfrifiad cynhaliaeth llawn gan ddefnyddio ein proses safonol.

Fodd bynnag, ni fydd y rhiant â gofal yn cael taliadau cynhaliaeth plant llawn yn ogystal â'u Cymhorthdal Incwm neu Lwfans Ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm. Mae hyn oherwydd bod y Llywodraeth yn cadw rhywfaint o'r arian a delir fel cynhaliaeth plant i wneud i fyny am arian a delir fel budd-daliadau.

Yn hytrach, bydd y rhiant â gofal yn cael pa fudd-daliadau bynnag y mae ganddynt hawl iddynt, yn ogystal a phremiwm cynhaliaeth plant - unrhyw swm hyd at £10 yr wythnos o unrhyw gynhaliaeth plant y mae'r rhiant dibreswyl yn ei thalu.

Os ydych wedi dod i gytundeb preifat gyda'r rhiant arall ynglŷn â chynhaliaeth plant, fel arfer gallwch newid a defnyddio ein gwasanaethau ar unrhyw bryd.