Hafan › Sefydlu cynhaliaeth plant › Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan › Hunangyflogaeth
Hunangyflogaeth
Os bydd rhiant dibreswyl yn hunangyflogedig, dylent barhau i dalu cynhaliaeth plant yn y ffordd arferol. Byddwn yn gweithio allan y swm y dylent ei dalu yn seiliedig ar eu hincwm wythnosol a'r nifer o blant y maent yn talu cynhaliaeth plant ar eu cyfer. Yr unig wahaniaeth yw sut rydym yn cyfrifo eu henillion.
Sut mae'r CSA yn cyfrifo enillion o hunangyflogaeth?
Os yw'r rhiant dibreswyl yn hunangyflogedig, byddwn yn cyfrifo eu henillion wythnosol ar gyfartaledd ar gyfer y flwyddyn dreth ddieddaraf.
Fodd bynnag, efallai bydd adegau pan na allwn gyfrifo enillion o hunangyflogaeth fel hyn. Er enghraifft, os mai dim ond yn ddiweddar mae'r rhiant dibreswyl wedi dechrau gwaith hunangyflogedig byddwn yn defnyddio manylion yr incwm gros (yr holl arian mae'r busnes, yn hytrach na'r rhiant dibreswyl, wedi ennill). Yna, o'r incwm gros hwn, byddwn yn tynnu:
- unrhyw dreuliau rhesymol a delir i redeg y busnes (heb gynnwys gwariant cyfalafol neu dreuliau adloniant busnes)
- TAW (Treth ar werth)
Am fwy o wybodaeth am sut rydym yn cyfrifo cynhaliaeth darllenwch Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?
Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?
[780Kb]
title="Gallwch ddefnyddio ein cyfrifydd ar-lein i">Gallwch ddefnyddio ein cyfrifydd ar-lein i
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?" [941Kb]

