Mae'r adran hon o'r wefan yn dweud wrthych sut gall y CSA sefydlu trefniant cynhaliaeth plant ar eich cyfer. Gallwch ddarllen am sut rydym yn cyfrifo a chasglu taliadau cynhaliaeth plant.
Os bydd rhiant yn gofyn yn gofyn i ni sefydlu trefniant cynhaliaeth plant, byddwn yn casglu gwybodaeth gan y ddau riant a'i defnyddio i weithio allan faint o gynhaliaeth ddylai gael ei thalu.
Yna, gallwn gasglu taliadau cynhaliaeth plant gan y rhiant dibreswyl, os byddwch am i ni wneud hyn, a'u pasio ymlaen i'r rhiant â gofal. Os na wneir taliadau ar amser, gallwn gymryd camau i gasglu'r swm cywir o gynhaliaeth plant.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am y rheolau am sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan. Hefyd, mae gennym gyfrifydd cynhaliaeth plant sy'n eich helpu i weithio allan faint o gynhaliaeth y gallech dalu neu faint y gallech ei gael drwy ein cynllun presennol.
Mae sawl dull gwahanol ar gyfer talu cynhaliaeth plantl. Mae'r adran hon hefyd yn cynnwys gwybodaeth am beth fydd yn digwydd os bydd un rhiant yn byw dramor.
Gallwch hefyd ddarllen am y gwahanol ffyrdd o wneud cais ac am y wybodaeth fydd ei hangen arnoch cyn i chi wneud cais i'r CSA.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Sut caiff cynhaliaeth plant ei gweithio allan?" [941Kb]

