Pwy all wneud cais am gynhaliaeth drwy'r CSA?
Gall person neu riant â gofal, neu riant dibreswyl ofyn i ni weithio allan cynhaliaeth plant a gwneud trefniadau talu.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai na allwn dderbyn cais. Er enghraifft, efallai na fyddwn yn derbyn achosion ble:
- mae'r rhiant â gofal neu'r plant yn byw dramor, neu
- mae'r rhiant dibreswyl yn byw dramor ac nid yw'n gweithio i gyflogwr sy'n seiliedig yn y DU, y gwasanaeth sifil neu'r lluoedd arfog, neu
- mae gorchymyn llys yn bodoli sy'n cyfarwyddo'r rhiant dibreswyl i dalu cynhaliaeth, a gwnaed hwn cyn mis Ebrill 2003, neu
- gwnaed gorchymyn llys yn cwmpasu cynhaliaeth plant ar ôl mis Ebrill 2003 ond nid yw wedi bod mewn grym am 12 mis, neu
- mae cytundeb cynhaliaeth ysgrifennedig yn bodoli, a gwnaed hwn cyn 5 Ebrill 1993.
Os oes gorchymyn llys neu gytundeb cynhaliaeth ysgrifennedig yn bodoli yn barod, (fel y disgrifir uchod) a bod y naill riant yn awyddus i'w newid, dylech wneud cais i'r llys ble gwnaed y cytundeb cynhaliaeth.
Ceisiadau gan blant
Yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, dim ond rhiant, nain neu daid, neu warcheidwad y plentyn all wneud cais am gynhaliaeth plant. Serch hynny, yn yr Alban, gall rhai pobl ifanc wneud cais am gynhaliaeth plant os nad oes unrhyw un arall yn cael taliadau cynhaliaeth plant ar eu cyfer.
Plant yn yr Alban
Gall plentyn sy'n byw yn yr Alban wneud cais am gynhaliaeth plant os:
- ydynt yn byw yn Yr Alban
- ydynt rhwng 12 oed a 19 oed ac mewn addysg llawn amser (hyd at y Safon Higher)
- ydynt yn byw ar wahân i un neu i'w dau riant
- mae gan y rhiant (neu'r rhieni) nad ydynt yn byw gyda hwy, gartref eu hunain yn Yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon neu Loegr. Neu gallant fod yn byw dramor ond eu bod yn gweithio i gyflogwr gyda busnes yng Nghymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Loegr.
Pryd na all plentyn sy'n byw yn yr Alban wneud cais?
Ni allant wneud cais am gynhaliaeth plant os oes rhywun wedi gwneud cais yn barod ar eu cyfer. Gallai'r person sydd wedi gwneud cais ar eu cyfer fod yn
- un o'u rhieni
- y person sy'n byw gyda hwy
- brawd neu chwaer hŷn.
Hefyd ni allant wneud cais os oes gan eu rhieni
- cytundeb cynhaliaeth ysgrifenedig
- Llythyr o Gytundeb
- Gorchymyn cynhaliaeth mewn grym.
Gwybodaeth berthnasol
- Darllenwch ein taflen "Beth yw cynhaliaeth plant a sut mae'n effeithio arnaf fi?" [941Kb]

